Pwerau cryfach i frwydro yn erbyn tybaco anghyfreithlon yn dod i rym
O 20 Gorffennaf 2023, bydd cosbau newydd yn dod i rym a fydd yn golygu y gall busnesau ac unigolion sy'n gwerthu tybaco anghyfreithlon dderbyn cosb o hyd at £10,000.
Bydd gan swyddogion Safonau Masnach y pŵer i atgyfeirio achosion i CThEM ar gyfer ymchwiliad pellach lle canfuwyd bod busnesau neu unigolion yn gwerthu tybaco anghyfreithlon. Bydd CThEM, lle bo'n briodol, yn gweinyddu'r cosbau ac yn sicrhau bod y gosb briodol yn cael ei chymhwyso a'i gorfodi. Yn dibynnu ar ddifrifoldeb y toriad, gallai busnesau sy'n torri rheolau:
• Dderbyn cosb o rhwng £2,500 a £10,000 am gyflenwi cynhyrchion sy'n mynd yn groes i Ddilyn ac Olrhain Tybaco (TT&T)
• Cael eu cynhyrchion tybaco wedi'u hatafaelu
• Colli eu trwydded i brynu tybaco i'w ailwerthu yn y DU drwy dynnu eu ID Gweithredwr Economaidd yn ôl
Mae'r pwerau newydd yn adeiladu ar waith llwyddiannus Ymgyrch CeCe, menter ar y cyd rhwng CThEM a'r Safonau Masnach Cenedlaethol i fynd i'r afael â'r fasnach tybaco anghyfreithlon, sydd wedi tynnu 27 miliwn o sigaréts anghyfreithlon a 7,500kg o dybaco rholio â llaw rhag cael eu gwerthu yn ei ddwy flynedd gyntaf.
Mae masnachu mewn tybaco anghyfreithlon yn costio dros £2 biliwn i'r trysorlys trwy golli refeniw treth bob blwyddyn. Mae hefyd yn niweidio busnesau cyfreithlon, yn tanseilio iechyd y cyhoedd ac yn hwyluso'r cyflenwad o dybaco i bobl ifanc.
Darllenwch y canllawiau am y sancsiynau newydd yma.
I roi gwybod am wybodaeth am werthu tybaco anghyfreithlon cysylltwch â llinell gymorth twyll CThEM ar 0800 788 887 os na allwch ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein.